Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Adroddiad Drafft
CLA(4)-24-13
Teitl: Cod apelau derbyn i ysgolion 2013
Mae'r Cod ar Apelau Derbyn i Ysgolion (y Cod) yn cynnwys arweiniad ymarferol ac mae'n gosod gofynion yng nghyswllt awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, paneli apelau derbyn a fforymau derbyn yn defnyddio eu swyddogaethau apelau derbyn dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'r Cod yn cynnwys canllawiau sy'n gosod allan nodau, amcanion a materion eraill sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau apêl a rhaid i bob un o'r cyrff neu'r unigolion a gwmpasir weithredu'n unol â'r Cod. Mae'r Cod yn disodli Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn perthynas â’r cod hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn perthynas â’r cod hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2013